Y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi – 29 Mehefin 2023

Yn bresennol

John Griffiths AS (Cadeirydd)

Steffan Evans – Sefydliad Bevan (Ysgrifenyddiaeth)

Jane Dodds AS

Tawhinda Akbar – Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST Cymru)

Andrew Bettridge – Swyddfa John Griffiths

Amy Dutton – Cyngor ar Bopeth

Ryland Doyle – Swyddfa Mike Hedges AS

Catrin Glyn – Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Rachel Hart – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái

Rhiannon Henson – Mind Cymru

Izzabella James – Home Start Cymru

Joyce Kay – Purple Shoots

Robin Lewis – Staff y Senedd

Susan Lloyd-Selby – Ymddiriedolaeth Trussell

Maria Marshall – Y Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol

Emma Preece – Pobl a Gwaith

Abigail Rees – Barnardo’s Cymru

Cath Rees – Achub y Plant

Sarah Rees – Oxfam Cymru

Ben Saltmarsh – National Energy Action

Lauren Saunders – Fare Share Cymru

Owen Thomas – Swyddfa John Griffiths

Mary VandenHeuvel – Yr Undeb Addysg Cenedlaethol

Sophia Weekes – Swyddfa Grŵp Llafur Cymru

Melissa Wood – Barnardo's Cymru

 

Nodyn o’r cyfarfod

1.       Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod diweddaraf y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi.

2.       Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o'i waith diweddar ym maes tlodi, gan gynnwys y cyfweliad a roddodd i BBC Cymru ynghylch y cynllun peilot incwm sylfaenol.

3.       Nodwyd bod newid wedi bod i'r agenda. Dywedodd y Cadeirydd wrth y cyfranogwyr fod Bethan Sayed yn sâl. Cytunwyd, felly, y byddai ei chyflwyniad yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf, a gaiff ei gynnal gan y grŵp yn nhymor yr hydref.

4.       Cyflwynodd y Cadeirydd Sarah Rees, Cyfarwyddwr Oxfam Cymru, i ddechrau’r sesiwn gyntaf am ymgyrch newydd Oxfam, sef ‘Time to Care’.

5.       Rhoddodd Sarah gyflwyniad yn amlinellu cefndir yr ymgyrch. Nododd y rhesymau pam mae Oxfam yn cynnal yr ymgyrch, a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am y cynnydd sy’n cael ei wneud. Ymhlith ei phwyntiau allweddol roedd y canlynol:

a.       Mae tystiolaeth gadarn o’r cysylltiad rhwng bod yn ofalwr a dioddef tlodi. Nod yr ymgyrch yw addysgu’r cyhoedd am y sefyllfa hon ac annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn gofal.

b.       Wrth drafod y broses o fuddsoddi mewn seilwaith, mae angen siarad am ofal cymaint ag y mae angen inni siarad am adeiladau a ffyrdd.

c.       Mae rhoi mwy o werth ar ofal yn hanfodol os ydym am wella’r gwasanaeth iechyd, gan leddfu’r pwysau ar wasanaethau rheng flaen.

d.       Mae'r ymgyrch yn cyffwrdd â gwahanol agweddau ar ofal. Un pwnc y mae'n ei archwilio yw gofal plant. Mae cael mynediad at ofal plant yn her fawr i lawer. Mae 73 y cant o deuluoedd yng Nghymru nad ydynt yn defnyddio gofal plant ffurfiol yn dweud eu bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw gan nad ydynt yn gallu fforddio ei ddefnyddio.

e.       Mae’r ymgyrch hefyd yn archwilio’r heriau y mae gweithwyr gofal cyflogedig yn eu hwynebu, yn enwedig y tâl a’r amodau gwael y maent yn eu hwynebu a’r problemau recriwtio sy’n llethu’r sector gofal cymdeithasol. Roedd 56 y cant o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ennill llai na’r cyflog byw.

f.        Ymhlith y ceisiadau penodol y mae Oxfam yn eu gwneud, mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau a ganlyn:

                                                               i.      lleihau anghydraddoldebau incwm ar gyfer gofalwyr cyflogedig a gofalwyr di-dâl

                                                             ii.      ymestyn y cynnig gofal plant i bob plentyn sy’n chwe mis oed neu’n hŷn, beth bynnag yw statws cyflogaeth ei rieni

                                                           iii.      rhoi’r cyflog byw ar waith ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal plant, ynghyd â chyfleoedd gwell o ran datblygu gyrfa

                                                           iv.      sicrhau bod gwaith gofal di-dâl ar gyfer pob oed yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi’n briodol.

g.       Mae Oxfam yn gweithio gyda grwpiau gofalwyr i dynnu’r ymgyrch at sylw Aelodau o’r Senedd. Un o'r dulliau sy’n cael ei ddefnyddio yw crefftwriaeth (ymgyrchu drwy grefft), lle mae gofalwyr yn dod at ei gilydd i fynegi eu profiadau a'u galwadau am newid drwy ddefnyddio sychwyr llwch mewn modd creadigol. Bydd eu gwaith yn cael ei arddangos yn y Senedd cyn diwedd y flwyddyn.

6.       Diolchodd y Cadeirydd i Sarah am ei chyflwyniad, a gwahoddodd gwestiynau o’r llawr. Gofynnwyd ystod eang o gwestiynau, a chodwyd nifer o bwyntiau. Roedd y materion a ganlyn ymhlith y rhai a drafodwyd:

a.       Argaeledd data ynghylch nifer y plant sydd mewn gofal a’r berthynas rhwng y plant hynny a’u teuluoedd a thlodi.

b.       Yr angen am ddata ar lefel fwy lleol yn hytrach na data cenedlaethol yn unig.

c.       Yr angen i integreiddio gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd.

7.       Yn dilyn y drafodaeth, cyflwynodd y Cadeirydd yr ail siaradwr, sef Susan Lloyd Selby o Ymddiriedolaeth Trussell.

8.       Rhoddodd Susan gyflwyniad, gan rannu’r canfyddiadau sydd i’w gweld yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ymddiriedolaeth Trussell, sef ‘Newynu yng Nghymru’. Dyma oedd prif ganfyddiadau’r adroddiad:

a.       Mae un o bob pump o bobl ar draws Cymru, sef oddeutu 753,000 o bobl, wedi gorfod mynd heb bryd o fwyd neu wedi gorfod torri yn ôl ar eu bwyd.

b.       Mae 6 y cant o bobl Cymru wedi cael cymorth bwyd gan elusen. Nid yw 74 y cant o bobl sy’n wynebu newyn wedi gofyn am gymorth gan elusen eto.

c.       Dosbarthodd banciau bwyd sy’n rhan o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru dros 185,000 o barseli bwyd y llynedd, gan gynnwys mwy na 69,500 o barseli bwyd brys ar gyfer plant o dan 16 oed. Dyma’r nifer uchaf o barseli y mae’r rhwydwaith yng Nghymru erioed wedi’u dosbarthu mewn blwyddyn, ac mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 41 y cant o gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

d.       Ymhlith y grwpiau sy’n fwyaf tebygol o ddefnyddio banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell y mae pobl anabl, gofalwyr, rhieni a phobl sy'n mynd drwy brofiadau bywyd niweidiol.

e.       Mae 92 y cant o bobl sy'n cael eu cyfeirio at yr ymddiriedolaeth neu ei banciau bwyd yn cael budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd.

f.        Yn ôl gwaith ymchwil gan Ymddiriedolaeth Trussell a Sefydliad Joseph Rowntree, cost hanfodion – hynny yw, bwyd, cyfleustodau a nwyddau cartref hanfodol heb gynnwys rhent – ar gyfer person sengl ar hyn o bryd yw lleiafswm o £120, a’r gost ar gyfer cwpl yw lleiafswm o £200. Fodd bynnag, mae’r gyfradd sylfaenol o fudd-daliadau yn llawer is, ar lefel o £85 yr wythnos.

g.       Mae cyflogau isel a gwaith ansicr hefyd yn her i lawer. Mae un o bob pump o bobl a gafodd eu hatgyfeirio at fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell mewn gwaith.

h.       Gorffennodd Susan ei chyflwyniad gan ofyn am ddau gam gweithredu:

                                                               i.      Galwodd Susan ar sefydliadau i gefnogi galwadau Ymddiriedolaeth Trussell ar Lywodraeth y DU i ymgorffori yn y gyfraith lefel y taliadau y dylid eu gwneud drwy’r Credyd Cynhwysol, a hynny er mwyn sicrhau bod y taliadau hynny bob amser yn ddigon i dalu am ein hanfodion, megis bwyd a biliau.

                                                             ii.      Galwodd Susan ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system fudd-daliadau gydlynol ac integredig ar gyfer holl fudd-daliadau Cymru.

9.       Diolchodd y Cadeirydd i Susan am ei chyflwyniad, gan fynegi pryder ynghylch y data yr oedd Susan newydd eu rhannu. Nododd ei fod yn cefnogi galwadau Ymddiriedolaeth Trussell am gamau gweithredu, a dywedodd y byddai'n hapus i ysgrifennu at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ar ran y grŵp trawsbleidiol, i alw am y newidiadau a awgrymwyd.

10.   Ar ôl rhannu ei fyfyrdodau ei hun, gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau o'r llawr. Roedd y materion a ganlyn ymhlith y pynciau a drafodwyd:

a.       Pwysigrwydd sicrhau bod gan bobl ddigon o arian, a phwysigrwydd trin y mater hwnnw fel y datrysiad i ansicrwydd bwyd yn hytrach na chanolbwyntio ar ddarpariaeth bwyd yn unig.

b.       Sicrhau bod bwyd iach ar gael i bobl ar incwm isel.

c.       Gwerth cinio ysgol am ddim.

d.       Datganoli pwerau gweinyddol ym maes budd-daliadau.

11.   Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r grŵp am fod yn bresennol cyn dod â’r cyfarfod i ben.